O dan y Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, mae gan bob ardal Heddlu ‘Panel yr Heddlu a Throseddu’ i gynnal archwiliadau rheolaidd a chydbwyso ar berfformiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar ran y trigolion a’r Gymuned. Mae hefyd yn ofynnol i’r Comisiynydd ymgynghori â’r Panel ynghylch eu cynlluniau a’u cyllideb ar gyfer plismona, yn ogystal â lefel treth y cyngor a phenodi Prif Gwnstabl.