Talu Lwfansau

Telir ffi ar gyfradd ddyddiol i Aelodau’r Panel a gaiff ei chapio ar 6 diwrnod y flwyddyn ar gyfer pob aelod. Mae ffioedd y gyfradd ddyddiol ym mis Ebrill 2021 wedi’u hamlinellu isod:

  • Cadeirydd Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent – £268.00 y dydd
  • Aelod o Banel Heddlu a Throseddu Gwent – £210.00 y dydd

Yn ogystal, mae hawl gan Aelodau Panel Heddlu a Throseddu Gwent i hawlio lwfansau teithio ar gyfer dyletswyddau cymeradwy. Bydd y cyfraddau teithio yr un peth â’r rhai a bennwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol.

Gellir gweld lwfansau a threuliau a dalwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol isod.