Rôl Panel yr Heddlu a Throseddu

Rôl Panel yr Heddlu a Throseddu yw cefnogi a herio Comisiynydd yr Heddlu. Yn benodol, mae’n rhaid i Banel yr Heddlu a Throseddu wneud y canlynol:

  • Cefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent i arfer ei swyddogaethau’n effeithiol
  • Adolygu Cynllun yr Heddlu a Throseddu drafft blynyddol Comisiynydd yr Heddlu
  • Adolygu cyllideb ddrafft flynyddol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Adolygu a chraffu ar benderfyniadau a chamau gweithredu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Os oes angen, adolygu penodiad neu ddiswyddiad arfaethedig y Prif Gwnstabl
  • Gwneud adroddiadau neu argymhellion i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn ôl yr angen
  • Adolygu penodiad arfaethedig Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a phenodiad uwch-swyddogion.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Panel a’i weithdrefnau yn ei Gylch Gorchwyl a Rheolau Gweithdrefnol.