Y Panel

O dan y Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, mae gan bob ardal Heddlu ‘Panel yr Heddlu a Throseddu’ i gynnal archwiliadau rheolaidd a chydbwyso ar berfformiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar ran y preswylwyr a’r Gymuned. Mae hefyd yn ofynnol i’r Comisiynydd ymgynghori â’r Panel ynghylch eu cynlluniau a’u cyllideb ar gyfer plismona, yn ogystal â lefel treth y cyngor a phenodi Prif Gwnstabl.

Yn 2012, crëwyd Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent. Mae’r Panel yn cynnwys 12 aelod etholedig a enwebwyd gan bob awdurdod lleol yng Ngwent ac o leiaf ddau aelod annibynnol hefyd.

Yng Nghymru, mae Panel i’r Heddlu a Throseddu yn gyrff cyhoeddus annibynnol a’r Ysgrifennydd Cartref sy’n gyfrifol amdanynt. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn darparu gwaith gweinyddol a chymorth i Banel Heddlu a Throseddu Gwent.

Mae’r ddogfen ganlynol yn cynnwys dadansoddiad o’r costau yr aed iddynt yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19, ar gyfer gweinyddu Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent.

Gwariant Panel Heddlu a Throseddu Gwent 2022-23

Mrs Gillian Howells yw Cadeirydd presennol Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent, mae’r Cynghorydd Colin Mann o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Aelod Cyfetholedig ac Is-gadeirydd y Panel.

Mae Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent yn awyddus i glywed eich barn ac i ymgysylltu â phreswylwyr – dilynwch ni ar Twitter @Gwentpcp.

Cyfarfod â’r Panel

Mae 12 aelod etholedig ym Mhanel Heddlu a Throseddu Gwent. Caiff yr aelodau etholedig eu henwebu i’r awdurdod lleol sy’n derbyn (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) gan y pum awdurdod lleol yn ardal Heddlu Gwent, fel a ganlyn:

Y Cynghorydd Gareth A Davies

Enwebwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Yn cynrychioli Ward Rasa & Garnlydan


Y Cynghorydd Jacqueline Thomas

Enwebwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Yn cynrychioli Ward Georgetown


Y Cynghorydd Marina Chacon-Dawson

Enwebwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Yn cynrychioli Ward Cefn Fforest a Phengam


Y Cynghorydd Christine Forehead

Enwebwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Yn cynrychioli Ward Sant James


Y Cynghorydd Colin Mann

Enwebwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Is-gadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Gwent
Yn cynrychioli Ward Llanbradach


Y Cynghorydd Tony Easson

Enwebwyd gan Cyngor Sir Fynwy
Yn cynrychioli Ward Dewstow


Y Cynghorydd Tony Kear

Enwebwyd gan Cyngor Sir Fynwy
Yn cynrychioli Ward Llanbadoc & Usk


Y Cynghorydd Farzina Hussain

Enwebwyd gan Cyngor Dinas Casnewydd
Yn cynrychioli Ward Victoria


Y Cynghorydd Debbie Jenkins

Enwebwyd gan Cyngor Dinas Casnewydd
Yn cynrychioli Ward Pillgwenlly


Y Cynghorydd Mark Spencer

Enwebwyd gan Cyngor Dinas Casnewydd
Yn cynrychioli Ward Langstone


Y Cynghorydd Lynda Clarkson

Enwebwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Yn cynrychioli Ward Abersychan


Y Cynghorydd Nick Horler

Enwebwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Yn cynrychioli Ward Blaenafon


Mrs Gill Howells

Cadeirydd â Aelod Cyfetholedig o Banel Heddlu a Throseddu Gwent tan 31 Hydref 2024.
Yn byw yn Caerffili


Rhiannon Jones

Aelod Cyfetholedig o Banel Heddlu a Throseddu Gwent tan 31 Hydref 2024.
Yn byw yn Torfaen