Cwynion
Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent yw’r awdurdod priodol ar gyfer rhai cwynion a wneir yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent neu Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.
Bydd y Panel yn ymdrin ag unrhyw gwynion lefel isel yn erbyn y Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd. Fodd bynnag, bydd y Panel yn atgyfeirio honiadau o gamymddwyn neu gwynion difrifol at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Bydd y Panel yn cofnodi cwynion a materion ymddygiad yn erbyn y Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd ac mae’n gyfrifol am ymdrin â’r cwynion hyn a’u datrys yn anffurfiol. Bydd y Panel hefyd yn ymdrin â chwynion neu faterion ymddygiad difrifol yn erbyn y Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd sydd wedi cael eu hatgyfeirio’n ôl ato gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Dylai cwynion am Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu neu Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu gael eu hanfon i ‘Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG’ neu ar e-bost i gwentpcp@caerphilly.gov.uk
Dewiswch y ddolen isod i weld Gweithdrefn Gwyno Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent.
Os ydych am wneud cwyn am Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent neu Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, dylech lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gwyno a ddarperir. Cysylltwch â ni os ydych am i ni anfon copi caled o’r ffurflen hon atoch drwy’r post.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wneud cwyn am ymddygiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu neu Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ffoniwch 01443 864279.
Sylwer nad oes gan Banel Heddlu a Throseddu Gwent y cylch gwaith i ymdrin â chwynion yn erbyn Heddlu Gwent. Os hoffech wneud cwyn am Heddlu Gwent, bydd angen i chi gysylltu ag Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent drwy ffonio 01495 745382, e-bostio psd@gwent.police.uk, neu drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol: Adran Safonau Proffesiynol Gwent, Pencadlys yr Heddlu Gwent, Ffordd Parc Llantarnam, Llantarnam, Cwmbrân, NP44 3FW.