Comisiynydd yr Heddlu

Pwy yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent?

Jeff Cuthbert - Police Commissioner

Jeff Cuthbert

Bydd cyfnod Mr Cuthbert yn y swydd yn para pedair blynedd o 2016, ac mae’n gyfrifol am gynrychioli pobl Gwent a sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu yn effeithlon ac yn effeithiol.

Gwneir hyn drwy:

  • ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y ffordd y caiff gwaith plismona lleol ei gyflawni;
  • llunio cynllun yr heddlu a throseddu a’i ddiweddaru;
  • gosod cyllideb a phraesept yr heddlu;
  • ymgysylltu â’r cyhoedd a chymunedau yn rheolaidd;
  • penodi’r Prif Gwnstabl, a’i ddiswyddo lle y bo angen.

Mae Mr Cuthbert wedi nodi ei fod am fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu “gweladwy” a “chynhwysol” ac mae wedi addo y bydd yn sicrhau bod egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol a thegwch yn dod yn sail i arferion plismona yn y rhanbarth.

E-bost: Commissioner@gwent.pnn.police.uk
Ffôn: 01633 642200
Gwefan: www.gwent.pcc.police.uk
Twitter: @gwentPCC

Beth yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu?

Roedd cyflwyno Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn newid sylweddol i’r ffordd y caiff plismona ei lywodraethu, ac maent yn chwarae rôl bwysig a dylanwadol. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynrychioli’r cyhoedd yng Ngwent a sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr Heddlu yn effeithiol, yn effeithlon ac o’r safon uchaf. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn gyfrifol am ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.

Mae cyfrifoldebau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cynnwys gosod blaenoriaethau plismona lleol, rheoli cyllideb yr Heddlu, gosod elfen yr heddlu o’r dreth gyngor, ac mae’n gallu penodi a diswyddo’r Prif Gwnstabl. Mae ganddo gyfrifoldebau ehangach hefyd am gyflwyno diogelwch cymunedol a lleihau troseddau, sicrhau bod cytundebau cydweithio â Chyrff Plismona Lleol a heddluoedd eraill yn effeithiol, a gwella’r ffordd y caiff cyfiawnder troseddol ei gyflawni yn ei ardal.

Yn ogystal, mae’n sicrhau bod anghenion dioddefwyr troseddau wrth wraidd ei agenda. Ar gyfer y rôl hon, gall ennill cyflog o oddeutu £70,000 y flwyddyn a chael ei ddwyn i gyfrif am ei berfformiad mewn etholiad bob pedair blynedd.

Beth yw Panel yr Heddlu a Throseddu?

Bydd Panel yr Heddlu a Throseddu, sy’n cynnwys Cynghorwyr ac Aelodau Annibynnol, yn craffu ar berfformiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Lle y bo’n briodol, mae gan Baneli ddyletswydd i wneud sylwadau am y sawl a gaiff ei benodi’n Brif Gwnstabl gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, uwch-swyddogion eraill a benodir yn swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac i wahardd lefel braesept heddlu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae’r Paneli’n canolbwyntio ar gamau gweithredu a phenderfyniadau strategol allweddol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys a yw wedi cyflawni’r amcanion a nodwyd yng nghynllun yr heddlu a throseddu a’r adroddiad blynyddol, ystyried blaenoriaethau perthnasol partneriaid diogelwch cymunedol ac ymgynghori â’r cyhoedd yn briodol.

Mae’r sefyllfa yng Nghymru o ran y Paneli yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr gan eu bod yn baneli annibynnol a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref.

Beth fydd cydberthynas Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu â’r Prif Gwnstabl?

Ni all Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu dresmasu ar annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl, h.y. cyfarwyddo ble dylid clustnodi adnoddau, megis swyddogion yr heddlu. Mae’r Prif Gwnstabl yn cadw cyfrifoldeb am blismona gweithredol.